TEITL |
Datganiad ynghylch cynnydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru |
DYDDIAD |
15 Gorffennaf 2022 |
GAN |
Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad |
Ym mis Mai, gwnaethom ddarparu adroddiad cynnydd ar waith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, gan ymrwymo i ddarparu adroddiad pellach yn yr haf.
Mae gwybodaeth am waith y Comisiwn ers fy natganiad diwethaf wedi’i chynnwys yn yr adroddiad cynnydd diweddaraf a ddarparwyd gan y Cydgadeiryddion https://llyw.cymru/comisiwn-annibynnol-ar-ddyfodol-cyfansoddiadol-cymru-adroddiad-cynnydd-gorffennaf-2022.
Byddwn yn rhoi diweddariad pellach i’r Aelodau yn yr hydref.